telerau ac amodau
Mae Hynt yn fenter Cyngor Celfyddydau Cymru a reolir gan Greu Cymru mewn partneriaeth â Diverse Cymru. Buom yn gweithio gyda phobl anabl, sefydliadau trydydd sector, theatrau a chanolfannau celfyddydau i greu a datblygu Hynt.
1. Defnyddio Cerdyn Hynt
Fel deiliad cerdyn Hynt, mae gennych hawl i docyn am ddim i'ch cynorthwyydd personol neu ofalwr pan fyddwch yn mynychu perfformiadau yn unrhyw un o'r theatrau a chanolfannau celfyddydau sy'n aelodau Hynt. Byddwch yn derbyn cerdyn adnabod â llun gyda chyfeirnod cwsmer unigryw sy'n galluogi lleoliadau i gadarnhau eich manylion.
Bydd rhaid i chi ddefnyddio eich cyfeirnod unigryw bob tro y byddwch yn archebu tocynnau, er mwyn i'r theatrau a'r canolfannau celfyddydau allu gwirio eich gwybodaeth.
I chi mae'r tocyn am ddim. Mae'n golygu eich bod yn gallu mynychu gyda'ch cynorthwyydd personol neu ofalwr fel eich bod yn cael y cymorth angenrheidiol yn ystod eich ymweliad. Nid yw'n docyn am ddim i'r cynorthwyydd personol neu ofalwr, ac ni ellir ei hawlio os ydynt yn mynychu hebddoch chi.
Mae gan ddeiliaid cardiau hynt hawl awtomatig i un tocyn am ddim i gynorthwyydd personol neu ofalwr. Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch ac felly bod arnoch angen mwy nag un tocyn ychwanegol, gallwch wneud cais i gyflafareddu.
Mae rhai theatrau a chanolfannau celfyddydau yn rhoi cap ar nifer y tocynnau Gofalwyr sydd ar gael ar gyfer perfformiad. Os yw'r theatr wedi cyrraedd y terfyn hwnnw efallai na fyddwch yn gallu hawlio eich tocyn am ddim. Mae'n ddarostyngedig i bolisi'r theatr ei hun. I gael gwybod mwy am hyn ewch i'n adran Cwestiynau Cyffredin.
Os nad ydych eisoes wedi gwneud cais am Hynt, ond yn dymuno gweld sioe y diwrnod hwnnw, mater i'r rheolwr ar ddyletswydd yn y lleoliad yw penderfynu a fydd yn cynnig tocyn am ddim unwaith i chi. Cynnig unwaith yn unig yw hwn, ac ni ellir ei ailadrodd. Bydd rhaid i chi roi eich manylion cyswllt i'r theatr a bydd disgwyl i chi wneud cais i Hynt er mwyn cael tocyn am ddim ar gyfer unrhyw berfformiadau yn y dyfodol mewn unrhyw leoliadau sy'n cymryd rhan
Ni ellir gwneud cais am docynnau am ddim yn ôl-weithredol.
Mae rhestr lawn o leoliadau Hynt ar gael yma:
2. Diogelu Data
Mae Hynt yn rhwydwaith o theatrau a chanolfannau celfyddydau ar draws Cymru. Er mwyn i chi allu defnyddio eich cerdyn mewn unrhyw leoliad Hynt, rhaid i bob un wybod pa gwsmeriaid sy'n ddeiliaid cardiau Hynt. Oherwydd hyn, drwy ymuno â Hynt, rydych yn cytuno i adael i ni rannu rhywfaint o wybodaeth megis enw a manylion cyswllt llawn i'r rhwydwaith cyfan.
Nid ydym yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol nad yw cwsmeriaid yn dymuno ei rhannu ac nid ydym yn cadw manylion namau neu gyflyrau meddygol.
Rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb Diogelu Data o ddifrif ac rydym yn cydymffurfio â'r Ddeddf Diogelu Data.
3. Y broses ymgeisio
I ymuno â Hynt, rhaid i chi gwblhau ffurflen gais Hynt a'i dychwelyd gyda chopi o'ch dogfen ategol naill ai drwy e-bostio applications@hynt.co.uk neu drwy'r post at:
Cerdyn Hynt
Network House
St Ives Way
Sandycroft
Sir y Fflint
CH5 2QS
Rhaid i'r cais gael ei wneud yn enw'r cwsmer. Lle bynnag y bo'n bosib, dylech chi wneud y cais i'r cynllun. Os nad ydych yn gallu llenwi'r ffurflen, dylai cynorthwyydd personol neu ofalwr a enwebwyd eich cefnogi.
Bydd y cerdyn Hynt yn eich enw chi, gan ganiatáu i chi ddod ag unrhyw gynorthwyydd personol neu ofalwr y byddwch yn dewis i'ch cynorthwyo. Nid oes rhaid enwi cynorthwyydd personol neu ofalwr.
Caiff yr holl ohebiaeth ei hanfon at yr e-bost neu gyfeiriad post ar eich ffurflen gais, felly gwnewch yn siŵr bod eich manylion yn gywir.
Rhaid i'ch cynorthwyydd personol neu ofalwr fod yn berson cyfrifol sy'n gallu darparu'r lefel angenrheidiol o ofal yn ystod eich ymweliad.
Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid y Card Network i gyflwyno Hynt. Maent yn gyfrifol am brosesu'r holl ffurflenni cais. Rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb Diogelu Data o ddifrif ac rydym yn cydymffurfio â'r Ddeddf Diogelu Data. Bydd yr holl ddogfennau personol a ffurflenni cais yn cael eu dinistrio'n ddiogel unwaith y byddant wedi cael eu prosesu.
4. Meini Prawf Cymhwysedd
Meini prawf cymhwysedd awtomatig:
- Elfen Byw Dyddiol Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP) Safonol neu Uwch
- Elfen Gofal Uchel a Chanol Lwfans Byw i'r Anabl
- Lwfans Gweini Cyfradd Uchel
- Tystysgrif Nam ar y Golwg
- Pensiwn Anabledd Rhyfel
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog (AFIP)
- Taliadau Uniongyrchol
- Pecyn Gofal y Gwasanaethau Cymdeithasol
- Pecyn Gofal Iechyd Parhaus
- Nam Deuol ar y Synhwyrau
Rhaid i chi anfon prawf cymhwysedd gyda'ch cais. Rhaid i ni weld copi o un o'r dogfennau canlynol:
- Llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau sy'n cadarnhau bod yr ymgeisydd yn derbyn un o'r budd-daliadau a restrir yn y meini prawf
- Llythyr gan yr Awdurdod Lleol perthnasol sy’n cadarnhau bod yr ymgeisydd yn derbyn Pecyn Gofal y Gwasanaethau Cymdeithasol, Pecyn Gofal Iechyd Parhaus neu wedi cofrestru ar gyfer Taliadau Uniongyrchol
- Tystysgrif Nam ar y Golwg
Rhaid i ddogfennau gael eu hanfon fel llungopi neu wedi'u sganio drwy e-bost. Peidiwch ag anfon dogfennau gwreiddiol.
5. Cyflafareddu
Os ydych yn teimlo bod gwir angen gofal ychwanegol arnoch i allu mynychu oherwydd eich nam neu ofynion mynediad penodol, ond nid ydych yn gymwys yn awtomatig, yna gallwch wneud cais drwy gyflafareddu.
Os oes angen mwy na gofal 1 i 1, gallwch hefyd wneud cais i gyflafareddu i dderbyn mwy nag un tocyn am ddim i'ch gofalwyr neu gynorthwywyr personol.
Cefnogir cyflafareddu gan rwydwaith o sefydliadau trydydd sector, y cyfan ag arbenigedd a phrofiad o weithio gydag amrywiaeth eang o namau y gellir eu defnyddio mewn achosion unigol. Caiff cyflafareddu ei fonitro a'i adolygu'n annibynnol gan Diverse Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am gyflafareddu yma
6. Newid mewn amgylchiadau
Os byddwch yn ymuno â Hynt mae'n rhaid i chi roi gwybod i ni os bydd eich amgylchiadau'n newid fel y gallwn sicrhau bod gennym yr wybodaeth berthnasol ddiweddaraf.