meini prawf cymhwysedd
Fel rhan o’r broses gwneud cais i Hynt, bydd rhaid i chi gynnwys tystiolaeth yn dangos eich bod chi neu'r person rydych yn cwblhau'r cais ar ei ran/rhan yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd canlynol:
- Elfen Byw Dyddiol Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP) Uwch neu Safonol
- Elfen Gofal Uchel neu Ganolig Lwfans Byw i'r Anabl
- Lwfans Gweini Cyfradd Uchel
- Tystysgrif Nam ar y Golwg
- Pensiwn Anabledd Rhyfel
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog (AFIP)
- Wedi Cofrestru am Daliadau Uniongyrchol
- Pecyn Gofal y Gwasanaethau Cymdeithasol
- Pecyn Gofal Iechyd Parhaus
- Nam Deuol ar y Synhwyrau
Bydd rhaid i chi anfon gwaith papur atom i gadarnhau eich bod chi, neu'r ymgeisydd rydych yn gwneud cais ar ei ran, yn derbyn un o'r budd-daliadau a restrir yn ein meini prawf. Rhaid i ni weld copi o un o'r dogfennau canlynol:
- Llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau sy'n cadarnhau eich bod chi neu'r person rydych yn gwneud cais ar ei ran yn derbyn un o'r budd-daliadau a restrir yn y meini prawf
- Llythyr gan yr Awdurdod Lleol perthnasol sy’n cadarnhau eich bod chi neu'r person rydych yn cyflwyno cais er ei ran wedi derbyn Pecyn Gofal y Gwasanaethau Cymdeithasol, Pecyn Gofal Iechyd Parhaus neu wedi cofrestru ar gyfer Taliadau Uniongyrchol
- Tystysgrif Nam ar y Golwg
Os nad ydych yn sicr eich bod yn gymwys neu os oes gennych unrhyw gwestiynau cliciwch yma am gwestiynau cyffredin penodol ar y pwnc