gwybodaeth am hynt
Mae Hynt yn fenter newydd sy'n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydau yng Nghymru i greu cynnig clir a chyson i gynulleidfaoedd sydd ag angen cymorth gan gynorthwyydd neu ofalwr.
Bydd CERDYN HYNT yn caniatáu i rai â chardiau gael tocyn am ddim i gynorthwywyr personol neu ofalwyr i gael eu defnyddio mewn theatrau a lleoliadau sy'n rhan o’r cynllun yng Nghymru.
Bydd GWEFAN HYNT yn lle i fynd i gael gwybodaeth am fynediad. Byddwn yn darparu gwefan syml gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiadau a chanllawiau mynediad i bob lleoliad Hynt.
Do. Mae bod yn agored ac yn dryloyw yn bwysig iawn i ni. Arweinir Hynt gan gymheiriaid, ac rydym wedi gweithio gyda phobl anabl, cyrff trydydd sector a theatrau a chanolfannau celfyddydau i ddatblygu a chreu Hynt.
Mae Hynt yn fenter a arweinir gan gymheiriaid. Ar ddechrau'r prosiect, cyfarfuom ni ag amrywiaeth eang o bobl a sefydliadau. Buom yn gweithio gyda phobl anabl i greu'r meini prawf cymhwysedd fel bod Hynt mor deg, tryloyw a chredadwy â phosib.
Mae Creu Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Diverse Cymru ac mae'r sefydliadau canlynol hefyd wedi cefnogi a chyfrannu at Hynt:
- Celfyddydau Anabledd Cymru
- Anabledd Cymru
- Gweithredu ar Golli Clyw
- Cartrefi
- MIND Cymru
- Cymdeithas Alzheimer
- Cymdeithas Byw'n Annibynnol Abertawe
- Cyswllt Teulu Cymru
Hynt yw'r unig gynllun mynediad cenedlaethol rydym yn ymwybodol ohono. Mae cynlluniau eraill megis Cynllun Cerdyn y Cinema Exhibitors Association, sydd wedi'i ddylunio ar gyfer sinemâu, ond mae'r meini prawf a'r broses ymgeisio yn wahanol. Mae hefyd mathau eraill o gardiau ar gael fel cerdyn CredAbility sy'n nodi gofynion mynediad, ond nid yw'n gwarantu unrhyw fath o ddisgownt i ddeiliad y cerdyn neu docyn am ddim i'w gofalwr.
Mae gan Hynt aelodau ledled Cymru, ac rydym yn gweithio'n galed i gynyddu nifer y theatrau a chanolfannau celfyddydau sy'n cymryd rhan. Dewis y lleoliadau unigol yw ymuno â'r cynllun neu beidio.
Mae sawl cynllun mynediad lleol cyfredol yn bodoli, a ddatblygwyd gan theatrau a chanolfannau celfyddydau yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Gwyddwn y gall bodolaeth llawer o gynlluniau gwahanol mewn lleoliadau gwahanol fod yn ddryslyd a chymryd llawer o amser i gwsmeriaid. Dylai creu un cynllun gydag un ffurflen gais a chynnig cyson o docynnau am ddim i gynorthwyydd personol neu ofalwr ei gwneud hi’n haws i gynulleidfaoedd.
Mae Hynt yn rhwydwaith o theatrau a chanolfannau celfyddydau ar draws Cymru. Er mwyn i chi allu defnyddio eich cerdyn mewn unrhyw leoliad Hynt, rhaid i bob un wybod pa gwsmeriaid sy'n ddeiliaid cardiau Hynt. Oherwydd hyn, gofynnwn i bob cwsmer sy'n rhan o gynllun Hynt ein galluogi i rannu rhywfaint o wybodaeth o'r fath fel enwau llawn a manylion cyswllt.
Nid ydym yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol nad yw cwsmeriaid yn dymuno ei rhannu ac nid ydym yn cadw manylion namau neu gyflyrau meddygol. Rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb Diogelu Data o ddifrif ac rydym yn cydymffurfio â'r Ddeddf Diogelu Data.
Rydym yn croesawu unrhyw adborth neu sylwadau - mae'n bwysig i ni bod Hynt yn cael ei arwain gan gymheiriaid, ac mae'n parhau i ddatblygu, felly mae croeso i chi gysylltu â ni. Anfonwch eich sylwadau neu’ch adborth at Megan Merrett, Gweinyddwr Prosiectau ar info@hynt.co.uk
cerdyn hynt
Mae gan holl ddeiliaid cerdyn Hynt hawl i gael tocyn am ddim i'w cynorthwyydd personol neu ofalwr pan fyddant yn mynd i berfformiadau yn unrhyw un o theatrau neu ganolfannau celfyddydau Hynt.
Mae gan Hynt rwydwaith o theatrau a chanolfannau celfyddydau yn cymryd rhan. Gallwch ddefnyddio eich cerdyn yn unrhyw un o'r lleoliadau hyn: venues
Mae telerau ac amodau llawn cerdyn Hynt ar gael
Mae cerdyn Hynt yn cynnwys:
- ffotograff o ddeiliad y cerdyn
- enw deiliad y cerdyn
- y dyddiad dod i ben
- cyfeirnod unigryw’r cwsmer
- hollt lleoliad i gynorthwyo defnyddwyr dall neu rannol ddall
Cyflwynir y cerdyn wedi'i argraffu ag enw a llun y cwsmer, nid y person sy'n darparu cymorth. Mae hyn oherwydd ein bod yn gwybod y rhoddir gofal gan bobl wahanol, ac efallai nad yr un person fydd yn dodo bob amser. Gall y person sy'n dod fod yn unrhyw un sy'n gallu darparu'r gofal a chymorth priodol, felly gallai fod yn rhiant, aelod o'r teulu, partner, priod, ffrind, gweithiwr gofal neu rywun arall.
Dim ond un llun sydd ei angen arnom. Rhaid i'r llun fod yn debygrwydd da, diweddar, clir ac mewn ffocws heb guddio eich wyneb. Rhaid hefyd osgoi unrhyw rwyg neu grych yn y llun.
Os byddwch yn gwneud cais drwy e-bost, rydym yn hapus i dderbyn llun ynghlwm fel ffeil jpeg
Bydd cerdyn Hynt yn ddilys am 5 mlynedd. Pan fydd eich cerdyn yn nesáu at ddod i ben, byddwch yn cael eich atgoffa i lenwi ffurflen adnewyddu fer. Ni fydd rhaid i chi wneud cais arall.
Mae'r cerdyn Hynt yn rhad ac am ddim. Ariennir Hynt gan y theatrau a'r canolfannau celfyddydau sy'n cymryd rhan.
Byddwn yn postio eich cerdyn atoch o fewn 7 niwrnod gwaith ar ôl gwirio eich cais. Os oes gwybodaeth ar goll o'r cais neu os yw eich cais ar gyfer Llwybr 2, yna bydd y broses yn cymryd ychydig yn hirach.
Pan fyddwn yn derbyn eich cais rhaid i ni wirio:
- bod y ffurflen wedi'i chwblhau'n llawn
- bod tystiolaeth cymhwysedd wedi’i chynnwys
- bod llun y gellir ei ddefnyddio ar gael
Mae'r holl wybodaeth yn cael ei drin yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data. Gallwch ddarllen ein Polisi Preifatrwydd yma
Peidiwch â phoeni, does dim rhaid i chi wneud dim byd a does dim rhaid gwneud cais o’r newydd. Rydych chi’n dal i fod yn aelod ac ni fydd cerdyn neb yn darfod. Dydyn ni ddim yn adnewyddu’r cardiau gan ein bod yn ymestyn y dilysrwydd. Rydyn ni wedi dweud wrth bob un o ganolfannau hynt am anwybyddu’r dyddiad dod i ben a bydd gan bawb sy’n ymuno o hyn allan ddyddiad ‘dilys o’ yn hytrach na ‘dyddiad dod i ben’ ar ei gerdyn.
Rydyn ni wedi dyroddi llawer iawn mwy o gardiau nag a ragwelwyd yn wreiddiol, sy’n wych ond sy’n golygu y byddai’n gostus dros ben i’w hadnewyddu i gyd. Credwn ei bod yn well gwario arian ar fwy o hyfforddiant hygyrchedd i staff canolfannau a datblygu ein systemau swyddfa docynnau i alluogi archebu ar-lein.
Os ydych wedi newid eich cyfeiriad neu os oes gynnoch chi unrhyw fanylion eraill y mae angen i chi eu diweddaru, e-bostiwch info@hynt.co.uk neu ffoniwch 01244 526001.
meini prawf cymhwysedd
Mae dau lwybr ymgeisio ar gael ar gyfer Hynt
Gallwch gwblhau’r ffurflen gais a chynnwys tystiolaeth sy'n dangos eich bod yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd canlynol:
- Elfen Byw Dyddiol Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP) Safonol neu Uwch
- Elfen Gofal Uchel a Chanol Lwfans Byw i'r Anabl
- Lwfans Gweini Cyfradd Uchel
- Tystysgrif Nam ar y Golwg
- Pensiwn Anabledd Rhyfel
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog (AFIP)
- Taliadau Uniongyrchol
- Pecyn Gofal y Gwasanaethau Cymdeithasol
- Pecyn Gofal Iechyd Parhaus
- Nam Deuol ar y Synhwyrau
Neu os nad ydych yn gymwys yn awtomatig gallwch ddefnyddio Llwybr 2 yn
Bydd rhaid i chi anfon gwaith papur atom yn cadarnhau eich bod yn bodloni ein meini prawf cymhwysedd awtomatig. Rhaid i ni weld copi o un o'r dogfennau canlynol:
- Llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau sy'n cadarnhau eich bod wedi derbyn un o'r budd-daliadau a restrwyd
- Llythyr gan yr Awdurdod Lleol perthnasol yn cadarnhau eich bod wedi derbyn Pecyn Gofal y Gwasanaethau Cymdeithasol, Pecyn Gofal Iechyd Parhaus neu wedi cofrestru ar gyfer Taliadau Uniongyrchol
- Tystysgrif Nam ar y Golwg
Rhaid i ddogfennau gael eu hanfon fel llungopi neu wedi'u sganio drwy e-bost. Peidiwch ag anfon dogfennau gwreiddiol.
Na, fyddwn ni ddim yn gallu dychwelyd dogfennau gwreiddiol, felly atodwch gopïau o unrhyw waith papur yn unig.
Unwaith y bydd eich cais wedi cael ei brosesu, bydd eich dogfennau a'ch ffurflen gais yn cael eu dinistrio a'u gwaredu'n ddiogel. Ni chedwir unrhyw gopïau o ddogfennau.
Rhaid i bob deiliad cerdyn Hynt rannu rhywfaint o wybodaeth bersonol megis enw a manylion cyswllt llawn i bob lleoliad Hynt. Heb yr wybodaeth hon, ni fydd y theatrau a'r canolfannau celfyddydau yn gwybod pwy sy'n rhan o Hynt, ac ni fydd y cynllun yn gweithio'n effeithiol. Cedwir yr holl wybodaeth ar gronfa ddata ddiogel a rennir gyda theatrau a chanolfannau celfyddydau Hynt yn unig.
Nid ydym yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol nad ydych yn dymuno ei rhannu ac nid ydym yn cadw manylion namau neu gyflyrau meddygol.
Rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb fel gwarcheidwaid i'r wybodaeth hon yn ddifrifol iawn ac yn cydymffurfio â'r Ddeddf Diogelu Data.
Mae Hynt yn seiliedig ar lefel gofal angenrheidiol cwsmeriaid i allu mynychu perfformiad.
Rydym yn gwybod y gall symudedd weithiau fod yn rhwystr i fynychu, ac rydym yn gweithio gyda lleoliadau Hynt i'w helpu i gefnogi cwsmeriaid â heriau symudedd yn well.
Os ydych yn teimlo bod gwir angen gofal ychwanegol arnoch i allu bod yn bresennol oherwydd eich nam neu ofyniad mynediad penodol, gallech hefyd roi cynnig ar wneud cais drwy gyflafareddu.
Mae Hynt yn blaenoriaethu pobl â'r anghenion mwyaf, unrhyw un sydd ag angen cymorth ychwanegol i fynd i'r theatr arno/i.
Arweinir Hynt gan gymheiriaid, ac rydym wedi gweithio gyda phobl anabl, cyrff trydydd sector a theatrau a chanolfannau celfyddydau i greu meini prawf teg a chyfartal. Mae Hynt yn sicrhau nad yw'r rhai sydd ag angen cefnogaeth a chymorth gofalwr neu gynorthwyydd personol arnynt yn wynebu rhwystr ariannol o brynu tocyn ychwanegol er mwyn gallu mynychu perfformiadau.
Rydym yn cydnabod y gallai hyn olygu na fydd rhai cwsmeriaid - a oedd â hawl i sedd am ddim neu bris gostyngol o dan gynllun blaenorol - bellach yn gymwys yn awtomatig. Os ydych yn teimlo bod gwir angen gofal ychwanegol arnoch i allu bod yn bresennol oherwydd eich nam neu ofyniad mynediad penodol, gallech hefyd roi cynnig ar wneud cais drwy gyflafareddu.
Os ydych yn derbyn cyfradd is Lwfans Byw i'r Anabl, nid ydych yn gymwys i gael Hynt yn awtomatig.
Mae'r rhan fwyaf o theatrau a chanolfannau celfyddydau yn cynnig gostyngiadau i gwsmeriaid anabl, felly efallai y bydd gostyngiadau ar gael am berfformiad rydych am ei weld. Edrychwch ar y wefan neu wybodaeth tocyn y theatr unigol rydych yn ymweld â hi.
Rydym yn gwybod fod cael meini prawf cymhwysedd awtomatig yn gwneud i unrhyw gynllun deimlo fel nad ydyw'n gynhwysol. Os nad ydych yn gymwys i Hynt yn awtomatig, ond rydych yn teimlo bod gwir angen gofal ychwanegol arnoch i allu bod yn bresennol oherwydd eich nam neu ofyniad mynediad penodol, gallech hefyd roi cynnig ar wneud cais drwy gyflafareddu.
Mae cyflafareddu hefyd yn gweithredu fel system apeliadau felly os yw eich cais yn aflwyddiannus, gallwch ofyn i'ch cais gael ei adolygu gan gyflafareddu.
Cefnogir cyflafareddu gan rwydwaith o sefydliadau trydydd sector a caiff ei fonitro a'i reoli gan Diverse Cymru. Gallwch gael gwybod mwy am gyflafareddu yma.
archebu tocynnau
Mae rhai theatrau a chanolfannau celfyddydau'n gosod terfyn ar nifer y tocynnau Gofalwyr sydd ar gael ar gyfer sioeau penodol. Nid yw hyn yn beth rydyn ni yn Hynt yn ei gefnogi. Credwn ni na ddylid rhoi terfyn ar nifer y tocynnau Gofalwyr sydd ar gael ar gyfer unrhyw sioe.
Y prif reswm dros roi terfyn ar docynnau Gofalwyr yw bod y cwmni sy'n trefnu'r perfformiad (sef y cynhyrchwyr neu'r hyrwyddwyr), ac nid y theatr, wedi gosod terfyn ar nifer y tocynnau y maen nhw'n fodlon eu gwerthu am bris gostyngol. Golyga hyn fod rhaid i'r theatr neu'r ganolfan gelfyddydau dalu am unrhyw docynnau ychwanegol y maen nhw am eu dosbarthu. Mae pob un o'r theatrau a'r canolfannau celfyddydol yn ein rhwydwaith yn cael eu hariannu gan arian cyhoeddus ac mae'n anodd iawn iddyn nhw ddod o hyd i arian ychwanegol i dalu am unrhyw ddiffyg.
Deallwn fod hyn yn rhwystredig iawn i gwsmeriaid felly rydym yn gweithio gyda'r theatrau a'r canolfannau celfyddydau yn ein rhwydwaith i ddylanwadu ar hyrwyddwyr a chynhyrchwyr. Rydym eisiau iddyn nhw gael gwared ar y terfyn y maen nhw'n ei osod ar docynnau er mwyn i theatrau a chanolfannau celfyddydau allu cynnig tocyn am ddim bob amser i Ofalwr i rywun sydd ei angen.
Lle bo modd, bydd rhaid i chi ganiatáu digon o amser i'ch cais gael ei brosesu fel bod gennych gerdyn a chyfeirnod cwsmer unigryw cyn archebu tocynnau ar gyfer y perfformiad.
Os nad ydych eisoes wedi gwneud cais am Hynt, mater i'r rheolwr ar ddyletswydd yn y lleoliad yw penderfynu a fydd yn cynnig tocyn am ddim unwaith i chi. Cynnig unwaith yn unig yw hwn, ac ni ellir ei ailadrodd. Bydd rhaid i chi roi eich manylion cyswllt i'r theatr a bydd disgwyl i chi wneud cais i Hynt er mwyn cael tocyn am ddim ar gyfer unrhyw berfformiadau yn y dyfodol mewn unrhyw leoliadau sy'n cymryd rhan.
Byddai. Mae hawl gan aelodau'r cynllun gael tocyn am ddim i ofalwr neu gynorthwyydd personol person anabl, pwy bynnag y bo. Gwyddwn y darperir gofal mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd ffurfiol ac anffurfiol. Nid oes rhaid i'r cwsmer anabl enwi un gofalwr unigol.
Bydd rhaid i chi roi rhif cyfeirnod unigryw wrth archebu a bod â cherdyn yn eich meddiant pan fyddwch yn casglu'ch tocynnau.
Mae gan theatrau a chanolfannau celfyddydau wahanol bolisïau ynghylch grwpiau cymdeithasol. Os ydych yn archebu ar ran sefydliad neu fusnes, gweler ein gwybodaeth am archebu grŵp yma.
Yn gyffredinol, os ydych yn gwneud archeb i grŵp cymdeithasol, bydd rhaid i bob cwsmer anabl yn y grŵp hwnnw fod â cherdyn Hynt eu hun er mwyn iddo/i allu hawlio tocyn am ddim i gynorthwyydd personol / gofalwr.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, sylwadau neu ymholiadau pellach, cysylltwch â ni: info@hynt.co.uk