Fel corff cyhoeddus, maent yn credu y dylai Cyngor Celfyddydau Cymru a'r gweithgareddau maent yn eu cefnogi - boed hynny drwy refeniw blynyddol neu arian prosiect - fod yn hygyrch i bawb yng Nghymru. Mae cydraddoldebau yn rheidrwydd moesol, cymdeithasol, creadigol a diwylliannol.
Cynllun mynediad cenedlaethol yw Hynt sydd ag anghenion y gynulleidfa yn ganolbwynt. Trwy ymuno â Hynt rydych yn gwneud ymrwymiad i ddarparu'r profiad gorau posibl i'ch cwsmeriaid. Mae Hynt yn rhoi hyder i ymwelwyr, yn cynrychioli eglurder, cysondeb a chyfathrebu agored mewn casgliad o leoliadau ledled Cymru.
- Mae Hynt yn creu polisi tocynnau cyson a theg ar draws theatrau a chanolfannau celfyddydol yng Nghymru - mae gan pob deiliaid cerdyn Hynt hawl i gael tocyn yn rhad ac am ddim ar gyfer eu gofalwr neu gynorthwyydd personol
- Mae Hynt yn hyrwyddo hygyrchedd ac yn gweithio gyda'n holl theatrau a chanolfannau celf i leihau'r rhwystrau i ymgysylltu a chyfranogi
- Bydd Hynt yn helpu i feithrin cysylltiadau rhwng theatrau a chanolfannau celf a'u cymunedau anabl lleol
- Bydd Hynt yn cefnogi theatrau a chanolfannau celf i ddatblygu sgiliau, arbenigedd a gallu drwy ddarparu hyfforddiant, cyngor ac arweiniad i theatrau a chanolfannau celf.
cerdyn aelodaeth yw hynt
Mae gan rai â cherdyn Hynt hawl i gael tocyn yn rhad am ddim i gynorthwyydd personol neu ofalydd ym mhob theatr a chanolfan gelf sy’n rhan o’r cynllun.
adnodd yw hynt
Mae www.hynt.co.uk a www.hynt.cymru yn cynnwys gwybodaeth ac arweiniad defnyddiol am y cynllun a sut mae’n gweithio.
Mae hefyd yn adnodd i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwybodaeth neu newyddion am fynediad ac am y celfyddydau. Mae rhestrau'r safle'n cynnwys pob perfformiad hygyrch ar draws rhwydwaith lleoliadau Hynt yn ogystal â rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am leoliadau i helpu cwsmeriaid i gynllunio eu hymweliadau.
nod hynt yw arfer da
Bydd Hynt hefyd yn cyflwyno rhaglen hyfforddiant bwrpasol i'r lleoliadau sy'n cymryd rhan, gan ddatblygu hyder a gwybodaeth yn fewnol am y ffordd orau i wasanaethu anghenion ein cynulleidfaoedd anabl, ac yn gosod y mater o hygyrchedd wrth wraidd ein diwylliant a'n dull sefydliadol.
rhwydwaith yw hynt
Gan weithio gyda'n gilydd, gallwn anfon neges rymus am bwysigrwydd gwneud hygyrchedd yn ganolbwynt i'r hyn a wnawn. Bydd Hynt yn defnyddio cyfoeth o brofiad a sgiliau sydd gennym i'w rannu, gan gyflwyno'r hyn a wnawn a gwahodd pobl i gael profiadau buddiol yn ein lleoedd.
o safbwynt cynulleidfa
Mae celf a diwylliant ar gyfer pawb. Ond os oes gennych nam neu ofyniad mynediad penodol, nid yw bob amser yn hawdd cael profiad ohono. Yn aml, gall ymweld â theatr neu ganolfan gelf fod yn fwy cymhleth na dim ond archebu tocynnau a dewis beth i'w wisgo.
Cyn hyn, ni fu unrhyw gynnig cyson gan theatrau a chanolfannau celf i bobl ag angen cymorth cynorthwyydd neu ofalwr i fynd i'r theatr. Gwyddwn bod hyn yn rhwystro ein cynulleidfaoedd, gan ychwanegu mwy o amser ac ymdrech i broses a ddylai fod yn syml.
Gyda Hynt, dim ond un cais fydd aelodau'r gynulleidfa’n ei gwneud. Unwaith y bydd ganddynt gardiau, byddant yn gallu dod i berfformiadau yn holl leoliadau rhwydwaith Hynt gyda'r un cynnig o docyn am ddim ar gyfer eu cynorthwyydd neu ofalwr.
Rydym hefyd yn ei gwneud yn haws i aelodau'r gynulleidfa gynllunio eu hymweliadau trwy greu canllawiau mynediad i bob lleoliad Hynt a chynnal tudalen ganolog o bob perfformiad hygyrch yn rhwydwaith Hynt.