Partneriaid

Mae hynt yn brosiect cydweithredol. Mae 5 prif bartner yn gweithio gyda'i gilydd i wneud iddo ddigwydd.

arts council of wales

arts council of wales

Datblygwyd hynt gan gyngor celfyddydau cymru. Roeddent am weld newid mawr yn y ffordd y mae cwsmeriaid anabl yn cael mynediad i'r celfyddydau yng nghymru.

“fel corff cyhoeddus, rydym yn credu y dylai cyngor celfyddydau cymru a'r gweithgareddau rydym yn eu cefnogi - boed hynny drwy refeniw blynyddol neu arian prosiect - fod yn hygyrch i bawb yng nghymru.  Mae cydraddoldebau yn rheidrwydd moesol, cymdeithasol, creadigol a diwylliannol.

Mae hynt yn flaenoriaeth i'r cyngor, sy'n ystyried cyflwyno'r cynllun arloesol hwn yn elfen allweddol yng nghynllun gweithredu cydraddoldeb cyngor y celfyddydau. Fel corff cyhoeddus, mae disgwyl i gyngor y celfyddydau fod yn bencampwr gweladwy a brwdfrydig i fentrau gynyddu mynediad i'r celfyddydau i bobl anabl. Ac mae cyngor y celfyddydau yn disgwyl i'r sefydliadau allweddol y mae'n eu hariannu i ddangos esiampl yr un mor flaengar. Mae'r cyngor yn credu'n gryf mewn manteision i gynulleidfaoedd ar draws cymru o fabwysiadu cynllun cyson, ledled y wlad a fydd yn gwella safon profiadau mewn theatrau a chanolfannau celfyddydau i bobl anabl."

www.artswales.org.uk/
creu cymru

creu cymru

Creu cymru yw'r partner arweiniol ac mae'n cyflogi tîm hynt sy'n rheoli'r cynllun o ddydd i ddydd. Creu cymru yw'r asiantaeth ddatblygu i theatrau a chanolfannau celfyddydau  yng nghymru. Eu cenhadaeth yw datblygu sector bywiog a blaengar o theatrau a chanolfannau celfyddydau  i bobl a chymunedau ledled cymru.

Mae creu cymru yn sefydliad aelodaeth, ac mae eu 44 aelod yn cynrychioli bron pob un o'r lleoliadau perfformio proffesiynol yng nghymru, o leoliadau â sawl gofod mawr fel venue cymru yn llandudno i theatrau cymunedol bach fel y theatr les yn ystradgynlais. Maent yn gweithio fel rhwydwaith cydweithredol i rannu gwybodaeth, arbenigedd, ymchwil a rhaglennu i ddatblygu theatrau, cynyrchiadau a chynulleidfaoedd.

www.creucymru.com
diverse cymru

diverse cymru

Mae diverse cymru yn rheoli ac yn monitro proses gyflafareddu. Maent hefyd yn rhoi cyngor ac arweiniad i dîm hynt.

Mae diverse cymru yn fudiad cydraddoldebau yn y trydydd sector yng nghymru. Cafodd ei greu i gydnabod yr anawsterau a’r gwahaniaethu sy'n wynebu pobl sy'n dioddef anghydraddoldeb yng nghymru. 

Mae diverse cymru yn awyddus i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl trwy gyflwyno gwasanaethau sy'n lleihau anghydraddoldeb a chynyddu annibyniaeth. Maent yn cefnogi pobl i siarad drostynt eu hunain. Maent hefyd yn helpu pobl i gysylltu â'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau drwy greu cyfleoedd ar gyfer cyfranogi a datblygu. Maent yn codi ymwybyddiaeth o faterion cydraddoldeb ac yn ysbrydoli pobl i weithredu yn erbyn anghydraddoldeb.

www.diversecyrmu.org.uk
include arts

include arts

Mae include arts wedi darparu hyfforddiant i'r holl theatrau a chanolfannau celfyddydau  sy'n aelodau hynt. Maent hefyd yn rhoi cyngor ac arweiniad i dîm hynt.

Mae include arts yn gr?p brwdfrydig o hyfforddwyr arbenigol. Mae include arts yn darparu ffyrdd o wella mynediad i leoliadau celfyddydol a chynyddu presenoldeb cynulleidfa. Maent yn canolbwyntio ar arfer gorau gwasanaeth cwsmeriaid i ymwelwyr anabl, gan ddenu cynulleidfaoedd amrywiol a chynnal sefydliad cynhwysol ac amrywiol. 

www.includearts.com
the card network

the card network

Mae'r card network yn rheoli proses ymgeisio hynt. Maent yn gwirio'r holl geisiadau ac yn cynhyrchu ac anfon holl gardiau hynt.

Mae gan y card network dros 35 mlynedd o brofiad o gynhyrchu gwahanol fathau o gardiau adnabod ac maent yn gweithio gydag amrywiaeth eang o sefydliadau. Mae ganddynt hefyd brofiad o weithio ar gynlluniau mynediad gan eu bod hefyd yn gweithio gyda’r cinema exhibitors association i gyflwyno'r cerdyn cea. Mae'r cerdyn cea yn gerdyn mynediad wedi'i ddylunio'n arbennig ar gyfer sinemâu.

www.thecardnetwork.co.uk

sefydliadau trydydd sector

Mae hynt hefyd wedi cael cymorth gan nifer o sefydliadau trydydd sector sydd wedi cyfrannu at greu a datblygu'r cynllun. Hoffem ddiolch iddynt am eu holl fewnbwn a'u cefnogaeth a'u harweiniad parhaus:

Gweithredu ar golli clyw
Cymdeithas alzheimer 
Cartrefi
Cyswllt teulu cymru
Byddar dall y du
Celfyddydau anabledd cymru
Anabledd cymru
Cŵn tywys
Mind cymru
Cymdeithas byw'n annibynnol abertawe
Cynyrchiadau ucan