Newyddion
mae fy ngherdyn yn dod i ben cyn bo hir; sut ydw i'n gwneud cais am un newydd?
Peidiwch â phoeni, does dim rgaid i chi wneud dim byd a does dim rhaid gwneud cais o'r newydd. Rydych chi'n dal i fod yn aelod ac ni fydd cerdyn neb yn darfod. Dydyn ni ddim yn adnewyddu'r cardiau gan ein bod yn ymestyn y dilysrwydd.

Rydyn ni wedi dweud wrth bob un o ganolfannau hynt am anwybyddu'r dyddiad dod i ben a bydd gan bawb sy'n ymuno o hyn allan ddyddiad 'dilys o' yn hytrach na 'dyddiad dod i ben' ar ei gerdyn.
Rydyn ni wedi dyroddi llawer iawn mwy o gardiau nag a ragwelwyd yn wreiddiol, sy'n wych ond sy'n golygu y byddai'n gostus dros ben i'w hadnewyddu i gyd. Credwn ei bod yn well gwario arian ar fwy o hyfforddiant hygyrchedd i staff canolfannau a datblygu ein systemau swyddfa docynnau i alluogi archebu ar-lein.
Os ydych wedi newid eich cyfeiriad neu os oes gynnoch chi unrhyw fanylion eraill y mae angen i chi eu diweddaru, e-bostiwch info@hynt.co.uk neu ffoniwch 01244 526001.