beth yw hynt?
Mae Hynt yn gynllun mynediad cenedlaethol newydd sy'n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydau yng Nghymru i sicrhau bod cynnig cyson ar gael i ymwelwyr â nam neu ofynion mynediad penodol ac i’w Gofalwyr a’u Cynorthwywyr Personol. Bydd y wefan yn nodi popeth fydd angen i chi ei wybod am Hynt; ar gyfer pwy mae Hynt, beth mae'n ei ddarparu, a sut i ddod yn aelod.
Os oes angen cefnogaeth neu gymorth arnoch i fynychu perfformiad mewn theatr neu ganolfan gelf, yna efallai y byddwch yn gymwys i ymuno â Hynt.
mae fy ngherdyn yn dod i ben cyn bo hir; sut ydw i'n gwneud cais am un newydd?
Peidiwch â phoeni, does dim rgaid i chi wneud dim byd a does dim rhaid gwneud cais o'r newydd. Rydych chi'n dal i fod yn aelod ac ni fydd cerdyn neb yn darfod. Dydyn ni ddim yn adnewyddu'r cardiau gan ein bod yn ymestyn y dilysrwydd. Rydyn ni wedi dweud wrth bob un o ganolfannau hynt am anwybyddu'r dyddiad dod i ben a bydd gan bawb sy'n ymuno o hyn allan ddyddiad 'dilys o' yn hytrach na 'dyddiad dod i ben' ar ei gerdyn.
Rydyn ni wedi dyroddi llawer iawn mwy o gardiau nag a ragwelwyd yn wreiddiol, sy'n wych ond sy'n golygu y byddai'n gostus dros ben i'w hadnewyddu i gyd. Credwn ei bod yn well gwario arian ar fwy o hyfforddiant hygyrchedd i staff canolfannau a datblygu ein systemau swyddfa docynnau i alluogi archebu ar-lein.
Os ydych wedi newid eich cyfeiriad neu os oes gynnoch chi unrhyw fanylion eraill y mae angen i chi eu diweddaru, e-bostiwch info@hynt.co.uk neu ffoniwch 01244 526001.
Swydd: Rheolwr Prosiect
Nifer yr oriau: 22.5 awr yr wythnos - Gweithio'n hyblyg yn ôl gofynion y prosiect.
Cyflog: £24,000 pro rata.
Lleoliad: Ledled Cymru a rhywfaint o weithio gartref ac o bell.
Tymor: Tymor Penodol: Mis Tachwedd 2021 - Mis Ionawr 2023 (14 mis)
Mae Cwmni Theatr Taking Fligh, Theatrau RhCT, Theatrau Sir Gar, Pontio, DACymru ac Hynt yn chwilio am Reolwr Prosiect trefnus a llawn cymhelliant sydd â phrofiad o fod yn fyddar neu sydd ag anabledd arall i'n helpu ni i gyflwyno prosiect newydd cyffrous.
Breaking the Box (teitl dros dro) yn brosiect a ariennir gan CCC sy'n ceisio gwella cyfleoedd i gynulleidfaoedd a phobl greadigol sy'n fyddar neu'n anabl. Bydd y Rheolwr Prosiect yn cynorthwyo hyd at dri o bobl greadigol byddar neu anabl sydd yn blynyddoedd cynnar o weithio ar leoliad meen prosiectau creadigol tra hefyd yn cydlynu gweithgareddau a sicrhau cynnydd ym mhob agwedd ar y prosiect. Byddwch ci'n gweithio'n agos gyda phobl greadigol sydd ym mlynyddoedd cynnar eu hastudiaethau a'u mentoriaid, gan sicrhau bod anghenion mynediad a chymorth yn cael eu diwallu.
Mwy o wybodaeth, pecyn llawn a phecyn llawn yn BSL clicwch yma.
symposiwm 2020
Croeso Cynnes i Bawb, Dydd Gwener 28 Chwefror 2020, Theatr y Parc a'r Dâr, Treorci
hanes hynt bod yn aelod